Canolfan Dylan Thomas, Abertawe. Dydd Mawrth 9fed Chwefror 2016

Mae cwmni cynhyrchu Ffilmiau Tanabi wedi derbyn dwy wobr gan Ŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Gogledd Cymru am y Ffilm Hir Orau a gynhyrchwyd yng Nghymru, gyda’u ffilm ‘By Any Name’.  Mae’r wedi ei seilio ar nofel boblogaidd  gan yr awdures enwog, Kathryn John. Dyfarnwyd hefyd gwobr yr Actores Orau i Samira Mohamed Ali, un o brif actorion y ffilm, allan o nifer o ymgeiswyr da.

Mae Samira Mohamed Ali’n chwarae rhan seicolegydd Dr. Elizabeth Santer, sy’n cael ei chymryd yn wystl gan John West a chwaraeir gan Cengiz Dervis – Actor ac arbenigwr gornestau ymladd. Bu rhaid i Samira, sy’n llysgennad yr elusen Cerebra, fynd drwy hyfforddiant personol dwys er mwyn medru ymdopi â gofynion corfforol caled y rôl hon. Mewn cyfweliad heddiw, dywedodd Samira “Rydw i wrth fy modd gyda’r wobr yma. Mae cael y cyfle i weithio yng Nghymru, yn enwedig yn Abertawe a Brycheiniog, wedi bod yn gyffrous dros ben, gan fod y rhan fwyaf o’m gwaith wedi bod dramor hyd yn hyn. Mi wnes i fwynhau chwarae gyferbyn â Cengiz gan ei fod yn actor mor dda ond roedd saethu’r ffilm mewn 16 diwrnod yn dipyn o gamp!”

Yn ddiweddar, cafodd  awdur y sgript, Kathryn John, ei henwi’n un o brif awduron penodol Amazon, ac mae ganddi hefyd broffil amlwg ar blatfformau ar-lein ar draws UDA , De America ac Ewrop. Mewn cyfweliad dywedodd “Rydw i wedi gwirioni’n lân bod ‘By Any Name’ wedi ennill y gwobrau hyn gan feirniaid rhyngwladol yn ei Gŵyl gyntaf un. Mae holl dîm Tanabi’n broffesiynol dros ben, ac yn benderfynol o gael popeth yn iawn. Dw i wedi sgwennu’r sgript gyda chymorth y cyfarwyddwr, ac roedd yn bleser cydweithio gydag Euros, yr actorion a’r criw i gyd. Dw i’n edrych ymlaen at weld y ffilm ar y sgrin fawr yn fuan”.

Meddai Euros Jones-Evans, Cyfarwyddwr ‘By Any Name’ – “Rydyn ni’n falch iawn bod ein ffilm hir gyntaf  wedi ennill y gwobrau hyn. Cawsom gefnogaeth anhygoel gan y tîm i gyd, yn cynnwys Coleg Gŵyr, Abertawe, Cyngor Abertawe a Heddlu De Cymru. Gyda’r ôl-gynhyrchu, cawsom y fraint o gyd-weithio gyda chyfansoddwyr enwog fel Crispin Merrell a Gordon Young i gwblhau’r gerddoriaeth a’r sain.  Mae’r ffaith ein bod wedi ein lleoli yng Nghanolfan Dylan Thomas yn bwysig wrth i ni baratoi ar gyfer ein ffilm hir nesaf o ran cael y gymuned leol i gymryd rhan yn ein prosiectau. Mae hyn yn rhan annatod o’n strategaeth 5-mlynedd  fel cwmni i ddod â buddsoddiadau i mewn i Gymru, a chreu swyddi sgiliau arbennig, cynaliadwy yn yr ardal ym myd y cyfryngau”.

Cafodd ein ffilm hir gyntaf ‘By Any Name’ ei derbyn gan Marie Adler, Prif Weithredwr cwmni yn Hollywood o’r enw Adler’s Adler & Associates Entertainment, Inc. Byddan nhw’n marchnata’r ffilm mewn Gwyliau Ffilm e.e. EFM Berlin, FILMART yn Hong Kong a Cannes. “Rydym yn gyffrous iawn ynglŷn â’r ffilm ‘By Any Name’ ac yn wirioneddol gredu yn Euros a Samira o Ffilmiau Tanabi. Bydd y ffilm hon yn gychwyn ar antur fawr iddyn nhw. Mae derbyn y gwobrau hyn yng Nghymru, gwlad sydd wedi ennill enw da drwy’r byd am ei hartistiaid gwych a’i sgriptwyr, yn gadarnhad gwych o hyn” meddai Adler.

Bydd ‘By Any Name’ yn cael ei dangos fel un o’r ffilmiau cyntaf ym mhumed Ŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin yng Ngwesty Parc y Strade o’r 9fed i’r 13eg o Fai. Meddai Kelvin Guy, sylfaenydd yr Ŵyl “Mae Gŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin wastad wedi bod yn awyddus iawn i gefnogi a hyrwyddo ffilmiau annibynnol, yn enwedig rhai sydd wedi eu cynhyrchu yma yng Nghymru. Dyna pam rydyn ni mor falch o ddangos ‘By Any Name’ yn un o’n digwyddiadau arbennig gyda’r nos.