FFILM

Mae gennym ystod o wasanaethau ar gyfer ffilmio digwyddiadau. Gall digwyddiadau ee cyflwyniadau, sgyrsiau, seminarau a sioeau theatr gael eu ffilmio ar gyfer ffrydio byw neu recordio i DVD neu ar-lein. Rydyn ni wedi gweithio ar ddigwyddiadau byw aml-gamera, a golygu ar y pryd yn ogystal â ffilmio cynadleddau, areithiau pwysig, gan ddarparu criw a gwasanaeth sy fwyaf addas ar gyfer cyllideb ac anghenion y cleient.  Rydyn ni wedi ffilmio digwyddiadau ar draws y DU ac yn fyd eang.  Rydyn ni’n cynnig gwasanaethau cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu ar gyfer y digwyddiad ac (yn dibynnu ar y gyllideb a’r amcanion terfynol ar gyfer y fideo) yn cynnig offer diweddaraf, criw proffesiynol a chael y canlyniadau gorau o’r prosiect.

 

Rydyn ni wedi ffilmio pob math o ddigwyddiadau o bob maint, o gyfarfod bychan gyda Thîm Uwchreoli, llwytho i fyny i safle porthol y cwmni, dilyn ymgyrchoedd mawr gwleidyddol ym Miami a llwytho i fyny clipiau fideo o brif uchafbwyntiau’r dydd yn ystod yr ymgyrchoedd.

 

YMGYNGHORIAD FFILM

Rydyn ni’n deall bod y diwydiant ffilmiau yn y DU yn cael ei ddominyddu gan gwmnïau mawr o ran ariannu, cynhyrchu, dosbarthu a marchnata. O ganlyniad, mae’n anodd iawn i unigolion/gwmnïau bach ymsefydlu yn y maes. Fodd bynnag ein bwriad yw ceisio cael mwy o chwarae teg yn y maes hwn.  Gydag adain gynhyrchu ffilmiau cwmni Tanabi, gallwn ddarparu gwasanaethau gwybodaeth, adnoddau ac ymgynghoriad ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau, fydd o gymorth i’w prosiect gyrraedd y lefel nesaf. Mae ein maes arbenigol yn y diwydiant ffilmiau yn cynnwys ariannu, rhoi cyngor ar ddosbarthu’r ffilm, strategaeth marchnata ffilm a gwyliau ffilmiau. Tra bod y mwyafrif o’n cleientiaid yn gweithio ar ffilmiau naratif, gallwn helpu gyda phrosiectau o bob genre.  Rydyn ni’n croesawu gwneuthurwyr ffilmiau dogfen, ac wedi datblygu set o wasanaethau penodol wedi eu teilwrio i’r sialensiau unigryw sy’n eu hwynebu

 

CYN-GYNHYRCHU

Mae ein swyddfa wedi ei lleoli yng nghanol Abertawe gyda mynediad hawdd i goridor M4.  Mae gennym rwydwaith eang o opsiynau lleoliad a stiwdio, actorion, modelau, criw a phobl greadigol. Yn ychwanegol at fod yn gwmni cynhyrchu gwasanaeth-llawn, mae gennym ni fynediad a phrisiau ffafriol i dŷ ar rent sy’n llawn offer, ystod eang o gamerâu, goleuadau ac offer grip ar gyfer unrhyw fath o saethu. Os oes gennych syniad yn barod, neu os ydych chi am gydweithio ar gyfeiriad creadigol y prosiect, bydd ein tîm profiadol yn barod i helpu troi eich syniad yn gynhyrchiad llwyddiannus.

 

 

CYNHYRCHU

Mae ein tîm o gyfarwyddwyr, cynhyrchwyr a ffotograffwyr sinema ymroddedig yn gwybod sut i ymdrin â phrosiectau o bob maint a genre, o gyfweliadau stiwdio camera-sengl, i saethu masnachol aml-gamera. Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn deall a mynd tu hwnt i ddisgwyliadau ein cleient beth bynnag fo’r cyfnod neu’r gyllideb. Rydyn ni’n darparu datblygu syniad, byrddau stori, castio, lleoliadau, criwiau camera a goleuadau, offer, a rheolaeth cynhyrchu gynhwysfawr.  Os ydych am lansio cynnyrch newydd, hyrwyddo eich delwedd, cyfleu eich gweledigaeth, neu’n syml rannu eich stori, rydyn ni yma i’ch helpu i lwyddo.

 

ÔL-GYNHYRCHU

Gall ein tîm o olygyddion olygu eich prosiect yn llyfn a chywrain ar AVID neu Final Cut Pro o fewn ffrâm amser cytunedig a chydweithio’n agos â chi bob cam i wneud yn siŵr ein bod yn cynhyrchu’r ffilm gorau posibl.  Rydyn ni’n gweithio gyda chyfansoddwyr a graddolwyr enwog, a gallwn eich sicrhau byddwch mewn dwylo diogel gyda ffilm 90 munud neu ffilm fer 15 munud.

 

DYLUNIO

 

DYLUNIO LOGO/BRAND

Rydyn ni’n ymwybodol iawn mai hunaniaeth cleient ydi nodwedd bwysicaf ei gwmni – dyna sut maen nhw’n mynegi hanfod ei busnes. Drwy ddylunio a chreu logos o syniadau gwreiddiol, gallwn ddatblygu dyluniad unigryw sy’n eu cynrychioli nhw neu eu cwmni.  Gellir gwneud hyn ar gyfer Mentrau Bychain a Chanolig (SME) a busnesau sy’n cychwyn neu gwmnïau sy angen ail-ddylunio rhywbeth mwy cyffrous a ffres.

Gyda rhywbeth sy mor bwysig, mae’n amlwg fod mwy i ddatblygu hunaniaeth brand na chynllunio darlun tlws. Bwriad ein dylunwyr proffesiynol yw cyflwyno gwaith i’r cleient sydd yn awdurdodol, yn eglur ac yn rhoi sylw manwl i fanylion.

 

GWE-LETYA/ OPTIMEIDDIO PEIRIANT CHWILIO (SEO) /DATBLYGU GWEFAN 

Rydyn ni’n dylunio ac yn berchen ar nifer o dempledi addas  ar gyfer y cyfrifiadur, dyfeisiau symudol ac sy’n hawdd i’w defnyddio. Gellir teilwrio’r rhain ar gyfer gwefannau busnes rheolaidd, portffolios, siopau, tai bwyta, neu dim ond ar gyfer gofod personol. Mae ein holl wefannau’n lân, minimal ac effeithlon – bob amser yn cadw mewn golwg y defnyddiwr ar y diwedd. Yn ychwanegol at ein templedi arferol a dyluniadau ymatebol, mae Tanabi’n cynnig gwasanaethau ysgrifennu cynnwys ac ymgyrchoedd e-bost effeithiol. Rydym ni’n cynnig prisiau cystadleuol iawn, gyda’n tîm busnesi bach  dibynadwy iawn sy’n rhoi cymorth 24/7.  Yn Tanabi, rydyn ni’n cydweithio â chwmnïau gwe-letya dibynadwy, lle mae rheolaethau mewnol i sicrhau bod cleientiaid yn cael yr ‘amser mynd’ gorau (heb amser ‘di-fynd’),y  cyflymder mwyaf, a’r cymorth gorau wrth ddewis lleoliadau (yn ychwanegol at gynnwys ac ôl-ddolenni) yn y DU a’r