Teledu

Mae Tanabi TV wedi ei leoli yn SA1 Abertawe, ac er ei fod yn rhan gymharol newydd o’r grŵp, mae gan y tîm dros 25 mlynedd o brofiad ym myd Cynhyrchu Gweithredol, Cynhyrchu a Chyfarwyddo Teledu, ffilm a phrosiectau ar-lein yng Nghymru, DU ac ar gyfer cleientiaid rhyngwladol. Mae gan y tîm brofiad helaeth o weithio i brif gleientiaid darlledu, ac mae gan y tîm arbenigedd ym myd rhaglenni ar gyfer BBC, S4C, ITV, SKY a CNBC.

Mae gan aelodau’r tîm rheoli brofiad eang fel Cynhyrchwyr Gweithredol, Cynhyrchwyr, a Chyfarwyddwyr aml-gamera dros ystod o genres, yn cynnwys, adloniant ffeithiol a datblygu adloniant ffeithiol.

Yn dilyn ein heitem ar CLWB, rhaglen chwaraeon S4C yng Ngwanwyn 2015, byddwn yn dangos ein cynnyrch teledu diweddaraf  – mae’n sôn am y pencampwr MMA (Crefft Ymladd Cymysg) ‘Brett Johns’, sydd heb ei guro hyd yma. Bydd hon yn rhaglen ddogfennol a bydd dilyn Brett, Pencampwr diguro Cymru wrth iddo frwydro ei ffordd i ben rhestr yr MMA.

Picture1

 

Latest Project: Brett Johns (1 x 60’) S4C

Prosiect Diweddaraf: Brett Johns (1 x 60) S4C

Os oes gennych chi syniadau ar gyfer rhaglen Deledu neu fformat yr hoffech eu trafod gyda’n tîm, mae croeso i chi ddod i gysylltiad, gan ein bod ar hyn o bryd yn datblygu rhaglenni peilot ar gyfer y Rhwydwaith a Darlledu Rhyngwladol ym myd Teledu.